Y Pris ‘Dan Ni’n Dalu

Profedigaeth. Yn anffodus, dio’m yn wbath fedrith rywun osgoi. Ond eto’i gyd, mae o’n dipyn o bwnc tabŵ o fewn ein cymdeithas dwi’n teimlo. Ma’n effeithio pawb, ond dewis cadw fo i ni’n hunain yda ni. ‘Nath o gymryd blynyddoedd imi allu siarad yn agored yn dilyn y profedigaeth cynta’ geshi. ‘Doni methu dirnad â’r peth. Dwi’n berson sy’n teimlo bron popeth i’r byw, a dwi dal ddim yn siwr os ‘di hynny’n beth da neu ddim i fod yn onest. Ar un llaw, ma’n dangos bo’ chi’n poeni am bobl ac ella’n fwy emotionally intelligent na’r person cyffredin, ond ar y llaw arall, mae’n gallu’ch g’neud chi’n fwy agored i niwed.

Wrth gwrs, mae galar yn gallu cael effaith sylweddol ar eich iechyd meddwl. Mae’n achosi teimlad o unigrwydd llethol, ac mewn rhai achosion, mae hynny’n gallu datblygu i iselder. Ma’ gorfod dysgu byw heb rywun oedda chi’n meddwl y byd ohonyn nhw, a mynd yn ôl i normal yn uffernol o tough. Ond yn amlwg, fedrith petha’ byth fynd ‘yn ôl i normal’. Ma’ popeth yn newid. Mae’r ddeinameg yn wahanol. Pan ‘dach chi’n ca’l newyddion da neu efo rhyw gossip diddorol i rannu – tydi’r person ‘dach chi isho deud wrth fwya’, ddim yno. Tydi achlysuron arbennig byth ‘run peth – ‘Dolig/penblwydd yn enwedig. Ma’ rheiny’n gallu bod yn anodd ofnadwy i ddeud gwir – ma’na gymaint o bwyslais ar yr elfen deuluol ac ati, mae o fatha bo’ chi’m yn ca’l bod yn drist ar yr adega’ hyn, mae o’n erbyn y rheola’.

Os ‘dach chi’n debyg i fi, y petha’ bach syn cymell y galar rhan fwya’ o’r amser. Er enghraifft, mynd i siop a gweld y pacad o fisgits odda chi’n arfar ga’l yn eu tŷ nhw bob tro, ogla persawr arbennig, clwad rhyw ddywediad oedd yn arwyddocaol i chi a’r unigolyn hwnnw ayyb.

Dwi ‘di trio meddwl am yr hyn sy’n fy helpu i, ac yn gysur pan ma’ hiraeth yn taro, a’u nodi nhw isod. Dwi’m yn gwbod os fydd hyn o help o gwbl, ond, fel dywed Tesco – ‘every little helps’.

  • Pan dwi’n mynd drw’ gyfnod calad, dwi’n meddwl am be fysa eu cyngor nhw imi – ro’dd yr unigolion dwi ‘di golli yn uffernol o ddoeth, a ‘swn i ‘di gallu troi atyn nhw motch pryd na be oedd yn bod. Ma’ dychmygu be ‘sa nhw’n ddeud/g’neud yn fy nghario i – yn atal fi rhag rhoi’r gora’ iddi.
  • Dwi’n argymell i chi wrando ar ‘Everglow’ gan Coldplay. Cân am golled, a byw heb rywun arbennig ydio a ma’r geiria’ mor dlws a theimladwy. 10/10. https://www.youtube.com/watch?v=ZQscWmdFtcc
  • Crio. Na, go iawn. Does ‘na’m byd o gwbl yn bod ar grio – weithia’ dyna’r oll sydd angan.
  • Er bod ‘na’m byd yn bod mewn hiraethu am y gorffennol, ma’n bwysicach os wbath i drysori’r presennol. Oni’n un gwael am fyw yn y foment – oni arfer unai meddwl yn ôl, neu’n meddwl gormod ymlaen. Ma’r ddau yr un mor ddi-bwynt â’i gilydd ar ddiwedd y dydd – dio’m am newid dim o gwbl. G’neud y mwya’ o be sgena chi rwan sy’n bwysig – achos pan ‘dach chi *yn* sbio nôl, ma’ difaru peidio gwneud y mwya’ o’r adega’ hynny yn dor-calonnus.
  • Ma’r dywediad ‘Galar ydi’r pris ‘dan ni’n dalu am gariad’ yn hollol wir. I deimlo colled mor ddwfn, mae’n rhaid ein bod ni wedi cael ein bendithio efo cariad go arbennig – dwi’n meddwl am y dywediad yna reit aml.

Colli Persbectif

Heb os, mae o’n un o ffenomenonau fwya’r 21ain ganrif, ac yn rhywbeth sydd wedi trawsnewid y byd cyfoes yn gyfan gwbl – am be dwi’n sôn, medda chi? Naci, nid Pobol y Cwm, ond y we wrth gwrs. Mae o wedi newid y ffordd ‘dan ni’n edrych ar fywyd ac anodd iawn ydi dychmygu byw hebddo erbyn hyn. Yn ôl gwefan Statista, roedd  1.91 biliwn o’r boblogaeth yn defnyddio rhyw ffurf o gyfrwng cymdeithasol yn 2014, ac mae disgwyl bydd 2.95 biliwn o bobl o amgylch y byd yn ei ddefnyddio erbyn y flwyddyn 2020. ‘Wan, ma’ hynny’n lot o selfies.

Yn gyntaf daeth MySpace, MSN a Bebo – a phrofi’n boblogaidd iawn efo pobl ifanc am nifer o flynyddoedd – dyma’r safleoedd ‘nath roi’r cyfle i lwythi o blant ysgol allu siarad gyda’i ffrindiau drwy’r nos am ddim, a rhoi’r gofod iddyn nhw gael bod yn pwy bynnag oedden nhw isho am y tro cyntaf. Ond y triawd sydd wedi gadael eu hôl ar ein cymdeithas heb amheuaeth ydi Facebook, Twitter ac Instagram. Dwi’n cofio roedd ’na adeg lle roedd y nifer o ffrindiau o’dd gennych chi ar Facebook yn ‘bwysig’, y mwya’ o ffrindia’ = y mwya’ poblogaidd oeddech chi. Roedd hyn yn arfer bod yn bwysig i mi hefyd, ond erbyn hyn, i’r gwrthwyneb ydi o  – os unrhyw beth, trio cael gwarad â chymaint o bobl a fedrai ydwi. Y ffordd dwi’n meddwl amdani ydi, os na fyswn i’n gwenu arna chi wrth basio chi ar y stryd, ‘dach chi wir ddim angen busnesu na ca’l gwbod unrhyw beth am fy mywyd i! O gwbl.

Rhywbeth arall sy’n boblogaidd i wneud ar y cyfryngau cymdeithasol ydi denu likes ar Instagram – gwefan sy’n galluogi pobl i uwchlwytho llunia’ o unrhywbeth yn y byd, a’u newid er mwyn eu gwneud yn fwy ‘diddorol’. Mae o fatha bod rhaid gwella ar bob dim, hyd yn oed golygfeydd o lefydd syfrdanol fel Yr Wyddfa – ma’r awyr yn gorfod bod yn lasach, yr eira yn wynach, y grug yn biwsach. Dwi’n cyfadda’, dwi ‘di bod yn euog o wneud hyn yn y gorffennol, ond dwi (o’r diwedd) wedi sylweddoli pa mor wirion ydi o.

Yr un capsiyna’ rhagweladwy sydd ar bob llun hefyd: e.e

  • Criw o bobl yn y Brifysgol = ‘ffrindia’ coleg, ffrindia’ oes ♥’.
  • Noson allan =  ‘Unig lun call o neithiwr/Cyn i betha’ fynd yn flêr’.
  • Emoji calon efo llun o fwyd diflas ‘nath fwy na thebyg achosi camdreuliad.
  • Llun o’r haul yn machlud = ‘Awyr mor neis heno’ ayyb (Fatha bod neb efo ffenast eu hunain).

Ond dio’m otch, nadi? Cyn belled bod pobl wedi gweld be ti ‘di ‘neud ac wedi cymryd sylw, ma’n iawn!

Ma’n rhwystredig fod popeth yn gorfod ymddangos yn berffaith ar y sgrin. Tydi cymdeithas ddim isho gweld yr ochr arall – s’gen neb ddiddordeb mewn gweld bo’ chdi’n styc mewn traffig, neu’n ca’l noson ddiflas i mewn yn gwylio Eastenders. Dwi ‘di ystyried dileu fy nghyfrifon ganwaith, a dwi wedi trio gwneud sawl tro. Ma’ ‘na deimlad eich bo’ chi’n colli allan ar rywbeth mawr pan ‘dach chi ddim ar y cyfrynga’ cymdeithasol – er bod ‘na byth ddim byd o bwys yn digwydd.

Dwi’n ca’l y teimlad weithia’ bod pobl yn postio negeseuon ar Twitter er mwyn cael sylw yn unig, nid oherwydd eu bod nhw’n credu be ma’ nhw’n ei ddeud. Tybed ydan ni i gyd yn euog o fynd i weld ffilm neu ddrama, a treulio’r cynhyrchiad cyfan yn meddwl am be ‘dan ni’n mynd i ddeud amdano ar Twitter yn syth ar ôl mynd adra? A mi rydan ni i gyd yn defnyddio yr un ystradebau yn y diwedd. Os dwi’n gweld unrhyw un arall yn galw drama yn ‘ddirdynnol’, neu ei fod o wedi ‘torri tir newydd’ – dwi ddim am fod yn gyfrifol am yr hyn dwi’n ei ‘neud! Ella fy mod i’n anghywir ac yn rhy sinicaidd fan hyn, ond dyna sut mae o’n dod drosodd i mi weithia’. Yn hytrach na gwirioneddol mwynhau ein hunain, ‘dan ni’n poeni am gael yr ongl berffaith, neu o hyd yn meddwl am be fydd pobl yn ei feddwl wrth i ni ddogfennu pob rhan o’n bywydau.

‘Dan ni’n colli golwg ar yr hyn sy’ wir yn bwysig, fel byw yn y foment, a threulio amser efo aelodau o’r teulu. Dwi’n ei weld o’n drist pan ma’ pobl yn treulio lot o amsar yn gwneud collage o lunia’ i ddathlu Sul y Mamau neu benblwydd Nain a’i roi o ar Facebook pan dydi’r aelod o’r teulu sy’n ganolbwynt i’r holl ddathlu ddim hyd yn oed ar y diawl peth!

‘Dan ni’n meddwl bo’ ni’n helpu’r achos mewn gwledydd wedi’u heffeithio gan ryfel drwy glicio’r botwm ‘like’ ar lun o ffoaduriaid, cyn scrolio lawr heb roi eiliad mwy o’n amser.

‘Dan ni’n meddwl bo’ ni’n gwneud newid chwyldroadol yn y byd drwy drydar am wleidyddiaeth i bobl sydd yn ein dilyn ni, ac sydd felly’n cefnogi’r un achos â ni yn barod. Ond cym on, waeth i chi weiddi mewn stafell wag ddim! Yr ateb i greu newid go iawn ydi i gamu ffwrdd o’r sgrin, a mynd allan i’r byd go iawn, a siarad efo pobl go iawn sy’n gwahaniaethu o’ch safbwyntiau chi, a chymdeithasu wyneb yn wyneb yn hytrach na drwy gyfnewidiadau 140 llythyren yn unig.

I feddwl faint o bŵer sydd gan wefanna’ cymdeithasol, pam ‘dan i’n eu defnyddio nhw am resyma’ mor narsisaidd? Pam ydan ni’n meddwl ei bod hi’n bwysicach deud wrth bawb ein bod ni’n hoffi hysbys ’Dolig diweddara’ ‘John Lewis’ na thrafod petha’ sy’n effeithio go iawn arnon ni?  Pam ein bod ni’n trio smalio bod ein bywydau ni i gyd yn berffaith pan ma’ na gymaint o bobl yn cael cam? Ond fedrwn ni ddim beio pobl chwaith, pan ma’ hi mor hawdd i bawb gael eu sugno i mewn i fyd mor wag ac arwynebol. Mae’n siwtio’r drefn fod pobl ddim yn meddwl gormod, ddim yn holi gormod, ddim yn mynd yn flin am betha’ go iawn, yn lle mynd yn flin bod yr act anghywir ’di ennill Britain’s Got Talent.

Peidiwch â ’ngham-ddallt i, dwi yn ddiolchgar i’r we am sawl rheswm (y blog hwn yn un ohonyn nhw), ond ar y llaw arall, ma’ ‘na beryg i ni adael i’r we ein rheoli ni os na fyddwn ni’n ofalus.

 

Diwedd cyfnod

Ymhen rhyw wythnos neu ddwy, mi fyddai’n gadael neuadda’ preswyl Prifysgol Bangor – fy ail gartre’ ers bron i ddwy flynedd bellach. Dwi ‘di crio, dwi ‘di chwerthin nes dwi’n sâl, (ac yfed nes dwi’n sâl), ‘di stressio,  a ‘di ca’l rhai o’r adega’ hapusa’ erioed o fewn yr adeilad hwn.

Dyma be fyddai’n golli….a be fyddai rili ddim:

Manteision

Gwneud ffrindiau oes ynde: Cliché dwi’n gwbod, a dwi’n un o’r rheiny sy’ ddim yn or-hoff o’r dywediad ‘Ffrindia coleg, ffrindia oes’ achos dwi ‘di clwad o gyyymaint, ond ma’ byw mewn neuaddau wedi fy nghyflwyno i i ffrindia’ fydd wastad yn rhan o’m mywyd i rwan. ‘Swn i bendant yn deud mai hwn ydi’r peth gora’ a fwya’ buddiol am fyw i ffwr’ o adra, ac yn argymell i unrhyw un sy’n medru i gymryd y plunge a byw mewn neuadd i wneud hynny.

Glanhawyr a’r boi bins: Er eu bod nhw’n deffro fi efo’r hoover bob bora dydd Mawrth, ac yn cerddad mewn i’r gegin pan dwi’n hungover yn g’neud panad i drio atgyfodi – dwi wir yn mynd i’w colli nhw flwyddyn nesa’ pan fyddai mewn tŷ!! Rhywun awydd ennill bach o bres pocad blwyddyn nesa…? *Hint hint.*

Yr ensuite: Ma’ peidio gorfod cynllunio pryd i ga’l cawod, neu ciwio i ga’l iwsho’r tŷ bach yn wba’th underrated mewn neuaddau yn fy marn bach i! Does gan pob neuadd ddim yr opsiwn yma felly dwi ‘di bod yn rili lwcus…😬 Mantais rhyfedd ella, ond trystiwch fi – mae o’n luxury a hanner.

Y cydymdeimlad ar ôl noson allan: Ma’ deffro ar ôl noson allan cymaint gwell mewn neuaddau i gymharu efo adra. Achos ma’ pawb yn diodda’ fatha chi ac felly does neb yn gallu pasio unrhyw feirniadaeth! Ma’r paneidia’ o de a coffi’n ca’l eu dosbarthu bob awr tra ma’ pawb yn ceisio dadebru a dod yn ôl i edrych yn ddynol.

Ma’ gwylio rhaglenni teledu yn lot fwy hwyl: O Broadchurch i Bake Off, i Teen Mom, ma’ gwylio rhaglenni (ar catch-up wrth gwrs) a cha’l rhoi running commentary efo criw yn y fflat yn wbath dwi wir ‘di joio g’neud, felly os osna unrhyw gwmni teledu awydd seinio ni fyny ar gyfar rhyw fath o Gogglebox i fyfyrwyr, ‘nai’m gwrthod.

Gwneud penderfyniada’ stupid:  Ma’ pawb yn eu gwneud nhw – yn sobor ac yn feddw. Ond dyma un stori sobor be bynnag . Un noson onin chwilio am handbag newydd, oni di bod isho un ers misoedd, a doni methu’n glir a ffeindio un – eshi’n hollol ffed yp a rhywsut dod ar draws gwefan lle fedri di ddewis ca’l un personalised. Heb feddwl, neshi chwara’ gwmpas braidd a pigo bag du –  adio f’enw i mewn rhyw ffont cwl, adio rhyw galon wrth ei yml. Meddwl bo’ ..

‘Ti Yn gwbod fedri di’m mynd a fo nôl wan’ Dyna ££ lawr y draen!

Anfanteision

Byw uwchben ystafell gyffredin: Geshi’r fraint o ga’l ‘stafell uwchben y ‘stafell gyffredin eleni. ‘Dio heb fod yn ideal pan oni efo darlith 9am, neu’n gorfod gweithio y diwrnod wedyn, neu jyst isho blydi cysgu. 😴 Ond rhaid derbyn, mewn adeilad llawn stiwdants, prin iawn ydi nosweithia’ da o gwsg.

Larwm tân: Mae o unai’n drill, neu achos bod rhywun wedi llosgi darn o facwn (ddigwyddodd hyn am 4am un bore!), neu mae o oherwydd bod y Brifysgol yn hoffi dychryn ni pob p’nawn dydd gwener pan ma’r larwm yn ca’l ei destio – fyddai rili ddim yn colli rheiny & gobeithio wir na chai glwad o o gwbl blwyddyn nesa’!

 

***

Erbyn hyn, fel ddeudis i, ar ôl bron i ddwy flynedd, dwi’n teimlo fel fy mod i’n barod i adael a dechra’ pennod newydd. Cyfnod chwerw felys ydi sut dwi’n edrych arni, ond, ymlaen at anturiaethau FFyC (Talfyriad y stryd, nid wbath doji…gaddo).

Gor-bryder

Nyts meddwl mai hwn ydi cofnod rhif 11 – bron i flwyddyn o redeg blog. Dwni’m faint o wahaniaeth ma’r cofnodion ‘ma’n eu gwneud, ond dwi’n mwynhau eu sgwennu nhw be bynnag. Holl bwynt cychwyn y prosiect bach yma oedd i sgwennu am bynciau heriol o fewn ein cymdeithas – iechyd meddwl yn benodol.  Dwi ‘di crybwyll rhai fel panic attacks, iselder, pwysa’ arholiada’ ayyb, a dwi’n gobeithio parhau a sgwennu mwy am bynciau tebyg yn y dyfodol. Pwrpas y cofnod hwn felly ydi i sôn yn fras am y pwnc cymhleth o or-bryder (anxiety). *Rhyw fath o gyflwyniad cyffredinol ydy hwn, ac nid blogiad trylwyr am gyflwr anxiety penodol, er gwybodaeth.*

Ma’ pawb efo anxiety. Pob un ohonom ni. Mae o’n hollol normal i boeni am betha’ fel iechyd chi’ch hun a’ch teulu, arholiada’, symud tŷ, ca’l swydd, materion ariannol ac ati. Ond, be sydd ddim gan bawb ydi anxiety disorder. Y gwahaniaeth ydi bod anxiety disorder yn amharu ar fywyd pob dydd ac yn rhywbeth fwy hir-dymor. Mae’n cael effaith ddwys arnoch chi, ac yn atal chi rhag byw bywyd cyffredin. Mae o’n lais bach sydd wastad yn cefn eich meddwl sy’n ama’ popeth, ac sy’n eich rhwystro chi rhag ymlacio. Un pwynt dwi’n meddwl sy’ wir angan ca’l ei bwysleisio – nid panicio yn unig ydi anxiety fel ma’ lot fawr o bobl yn ei feddwl. Yn sicr, tydi o ddim mor syml â hynny, ac mae o’n cael effaith llawar fwy anweledig ar unigolyn. Yn bersonol:

Ma’ anxiety yn g’neud fi’n hwyr i lefydd achos yr ofn o gyrraedd yn y lle cyntaf.

Ma’ anxiety yn rhwystro fi rhag atab rhai negeseuon rhag ofn imi ddeud y peth anghywir, neu achos bod y cyflwr wedi fy mlino i ormod i wneud. (Dwi byth yn *anwybyddu* negeseuon yn fwriadol FYI os gai jyst ‘neud nodyn o hynny’n fan’ma!)

Ma’ anxiety yn creu scenarios sydd heb ddigwydd yn fy mhen ac yn creu problem allan ohonyn nhw.

Ma’ anxiety yn atal fi rhag cymryd rhai cynnigion dwi’n ei ga’l rhag ofn y byddai ddim digon da.

Ma’ anxiety yn gallu fy mharlysu.

(Dwi hefyd wedi dysgu o fewn y pum munud dwytha’ bod y gair ‘anxiety’ ei hun yn ddigon i ‘neud fi’n blydi tense.)

Pwysig hefyd ydi cofio bod anxiety yn dod mewn nifer o wahanol ffyrdd; OCD (Obsessive Compulsive Disorder), Social anxiety, GAD (Generalised Anxiety Disorder), PTSD (Post Traumatic Stress Disorder) i enwi rhai, a bod cyflyra’ pawb yn wahanol. Mi fedrith un ddiodda’ o banic attacks gwael, tra bydd person arall erioed wedi cael un – ond yn diodda’r un cyflwr.

Ma’na elfen reit narcissistic ynglyn â’r peth i ddeud gwir! Os dwi’n clwad pobl yn chwerthin tu ôl mi, ma’n rhaid eu bod nhw’n siarad amdanai. Os oes ‘na rywun yn ymddangos yn ddiamynedd efo fi, ma’n rhaid mai fi sy’ wedi gwneud wbath o’i le. Os ‘di rhywun yn sbio’n gam arnai, ar bwy ma’r bai? W FI ETO.

Er ella ei fod o’n ymddangos felly, tydi sgwennu hyn yn gyhoeddus ddim yn hawdd o bell ffordd. Be ‘dach chi ddim yn ei weld ydi’r panig cyn pwyso’r botwm ‘cyhoeddi’, y gor-feddwl wrth imi weld bod pobl yn ei ddarllen, ac yna’r holl gwestiynu dwi’n ei ‘neud bob dydd efo ydwi’n g’neud y peth cywir yn trafod hyn mor agored. Yna, dwi’n cofio – be ‘di’r opsiwn arall s’genai? Cadw’n ddistaw a gadael i’r stigma ennill? No wê José. Ma’ trafod salwch meddwl yn beth iach. A dwi ddim am stopio.

Os ‘dach chi’n digwydd ‘nabod rhywun sy’n diodda’ o anxiety mewn unrhyw ffordd, y prif gyngor ‘swn i’n ei roi i chi ydi i fod yn amyneddgar. Y peth gwaetha’ ma’ dioddefwr angan ydi teimlo’n euog am eu cyflwr, neu eu bod nhw’n wastio’ch amser/yn boen/o dan draed. Ella bod eu problema’ mawr nhw yn ddim byd i chi, ond tydi hynny ddim yn eu gwneud nhw’n invalid nac yn llai o broblem. Tydi ailadrodd y cyngor ‘dach chi’n ei roi, yn ogystal â rhoi lot o sicrwydd iddyn nhw ddim yn ddrwg o beth i chi ‘neud chwaith. Er enghraifft, nai byth flino ar y geiria’ syml ‘Dwi yma i chdi.’ 

(Be bynnag newch chi – plis peidiwch â trafferthu deud ‘Keep calm and carry on’ i rywun efo anxiety – ‘di’r lol yna’n gwella dim ar y sefyllfa. Dwi ‘di ca’l cyngor gwell gan frwsh dannadd.)

Dolenni defnyddiol:

http://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/anxiety-and-panic-attacks/#.WP6QptLyvIU

http://www.nhs.uk/conditions/Anxiety/Pages/Introduction.aspx

https://www.anxietyuk.org.uk/https://www.anxietyuk.org.uk/

Os ‘dach chi’n ama’ eich bod chi’n diodda’ o unrhyw anhwylder, gwnewch yn siwr eich bo’ chi’n mynd at eich GP i gael diagnosis a thriniaeth cywir. Does byth c’wilydd. x

Rhagfarnu

Ar ôl ca’l golwg ar y teitl hynod greadigol uchod, ‘dach chi ddim angan bod yn jiniys i ddyfalu am be fydd y blog hwn yn sôn amdano. Mae o’n wbath ‘dan ni gyd yn euog o’i wneud (yn ddi-feddwl y rhan fwya’ o’r amser) – sef rhagfarnu. Ma’ gan bobl yn gyffredinol duedd i wneud eu penderfyniad am rywun cyn dod i’w ‘nabod yn iawn – mae’n rhan o’r natur ddynol. Ond dwi’n meddwl bod ‘na wahaniath rhwng rhagfarnu oherwydd dylanwad cymdeithas, a rhagfarnu mewn modd annifyr.

Un enghraifft o hynny, ac un peth sy’n fy ngwylltio i ydi’r arrogance sydd gan rai pobl yn erbyn cyrsia’ BTEC. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd efo BTEC – rhyw fath o substitute i lefel A/TGAU sy’n cael ei gynnig mewn ysgolion a cholegau ydio – lle does na’m arholiadau o gwbl – gwaith cwrs yn unig am gyfnod o ddwy flynedd, ond mae o dal yr un mor gymwys. Dwi’n cofio, pan oni’n ysgol, roedd ‘na agwedd snobyddlyd gan nifer yn erbyn unigolion o’dd yn dilyn cwrs o’r fath. ‘Thic’ o’dd y label gafodd eu rhoi ar y rhai o’dd yn g’neud BTEC Gwyddoniaeth/Maths. Achos, cofiwch, dim ond arholiada’ academaidd sy’n profi eich clyfrwch, ynte gyfeillion….

Ond y cyrsia’ Trin Gwallt/Adeiladu/Astudiaethau Plentyndod ayyb o’dd yn ca’l y fwya’ o stick, a’r bobl o’dd ar y cyrsia’ hynny yn ca’l eu trin yn israddol. Dwi ddim wir yn dallt pam. Sut ‘dach chi’n meddwl dysgodd y’ch hairdresser chi i dorri/steilio/lliwio’ch gwallt? Drwy ennill gradd 2:1 mewn Hanes ac Archaeoleg?! A lle ‘dach chi’n disgwyl i adeiladwyr/plymars y dyfodol ddysgu eu crefft er mwyn trwsio’ch tŷ chi nes ‘mlaen? Drwy flynyddoedd o hyfforddi i fod yn gyfreithwyr?! Ma’r peth yn wirion. Dwi’n casau’r syniad sy’ gan rai bod Prifysgol yn golygu’ch bo’ chi’n uwch eich statws na rhywun sy’n dewis llwybr gwahanol. Does ‘na’m rheidrwydd i bawb fynd lawr yr un trywydd â’i gilydd mewn bywyd – a ma’ hynny’n ocê. Dychmygwch ba mor ddiflas fysa’r byd os na dyna ‘sa’r achos 💤

Dwi ‘di crybwyll y pwynt nesa’ mewn blog o’r blaen (dwi’n meddwl), ond rhywbeth arall dwi ‘di sylwi arno ydi faint o ragfarnu sydd o ran sut ma’ rhywun yn edrych. Er enghraifft (a dim ond un enghraifft ydi hyn), pam ein bod ni’n cymryd yn ganiataol bod pawb sy’ efo tatŵs/lliw lliwgar yn eu gwallt/ neu lot o piercings yn bobl tyff, rebellious? Yn yr un modd, ‘dan ni’n meddwl bod pobl sydd heb unrhyw beth ar eu cyrff neu ddim yn gwisgo colur yn bobl barchus, sy’n cadw at y rheola’, ac yn ‘neis neis’? I fod yn deg, dwi yn meddwl bo’ ‘na elfen o ga’l ein cyflyru i feddwl petha’ fel hyn gan y cyfrynga’ ac ati, ond tydi hynny dal ddim yn ei ‘neud o’n dderbyniol. Dwi’n teimlo fel bo’ ni’n rhoi gormod o labeli ar bobl o’n cwmpas ac yn rhoi ein gilydd mewn bocsys penodol, yn lle croesawu’r ffaith bod na fwy i unigolyn na be ma’ nhw’n ei wisgo, ei swydd, lliw ei gwallt ayyb. Ma’ bywyd llawar difyrrach unwaith ‘dach chi’n agor eich meddwl a sbio heibio be sydd ar yr arwyneb yn unig. 

***

 

 

 

 

20 cân i godi ysbryd

Ers bod yn blentyn, ma’ cerddoriaeth wedi chwara’ rhan mawr yn fy mywyd i, oni’n casglu gymaint o CD’s nes do’dd genai’m lle i fwy, rhoi miloedd (yn lythrennol) o ganeuon ar fy MP3/iPod a gwrando arnyn nhw ar repeat, *trio* dysgu piano ac yna prynnu gitar…hm ia..a’th hwnnw ddim yn dda iawn, i roi o fel’na.

Dwi’n meddwl ei fod o’n anhygoel y modd sy’ gan gerddoriaeth i newid eich hwylia’ – fedrith o’ch g’neud chi’n drist/hapus/cyffrous/synfyfyriol ayyb, a hynny mewn mater o ychydig funudau. Mae o hefyd yn wbath sy’n fy helpu i pan dwi’n bryderus ac angan ffordd i ymlacio.

Felly dyma restr o ugain cân sydd, yn bersonol, yn gymorth pan dwi wir angen, neu sy’n gallu cyfleu fy nheimlada’ i 100x gwell pan tydi’r geiria’ ddim gen i.

1.Best Fake Smile – James Bay

Dwi wir yn hoffi neges y gân hon – mae o’n eich atgoffa chi i beidio setlo am lai na ‘dach chi’n ei haeddu, a bod ‘na ddim rheidrwydd arnoch chi i aros mewn rhywle sy’n eich g’neud chi’n anhapus. Mae bywyd llawer rhy fyr i hynny. (Dwi’m yn rhy hoff o’r fideo, ond ma’r boi bach yn ciwt.)

2. Reaper – Sia

Defnyddio iselder fel trosiad ma’ Sia yn ‘Reaper‘, a ma’i, wel beisicli, yn deud wrtho fo lle i fynd. Mae’n gân bositif ac yn dangos ei bod hi yn bosib i ymladd yn ôl yn erbyn y salwch – “Oh, you tried to track me down/You followed me like the darkest cloud/But no baby, no baby, not today”. ‘Swn i’n argymell i unrhyw un sy’n ca’l diwrnod lle ma’ nhw’n teimlo’n hollol anobeithiol i wrando ar hon.

3. Keeping Your Head Up – Birdy

Eto, cân i wrando arni ar ddiwrnod gwael lle ‘dach chi angen rhywbeth i godi calon. Dwi’n hoff iawn o Birdy fel artist, a hon ydi un o fy hoff ganeuon ganddi. Mae’n sôn am gefnogi rhywun pan mae nhw wir angen, yn ogystal â cyfleu mai rhywbeth dros dro ydi’r tywyllwch. “Hold tight, you’re slowly coming back to life. I’ll be keeping your head up” Dwi’n meddwl ein bod ni gyd angen o leia’ un person fel’na yn ein bywyda’, sydd yno trwy’r amseroedd da a’r drwg. ❤️

4. Everybody Needs Somebody To Love – The Blues Brothers

Neshi ddod ar draws y gân hon yn wreiddiol pan gafodd o’i defnyddio yn y cefndir ar wefan fy ysgol gynradd, ac oni wrth fy modd arni! Mae o mor catchy ac yn berffaith ar gyfer codi’ch ysbryd.

5. Mae’r Ysbryd Yn Troi – Elin Fflur

Un o fy hoff ganeuon i gan Elin Fflur. Nid yn unig oherwydd ei fod o’n f’atgoffa i o fod yn ddiniwed yn 12/13 oed pan oni’n rhannu caneuon fel ‘ma drw’ Bluetooth ar fy Samsung oren, ond hefyd oherwydd bod y geiria’ a’r alaw mor hyfryd a llawn gobaith. E.e “Ond mae’r ysbryd yn troi, ac mae’r cymylau yn ffoi/ac yna llaw yn estyn draw a gafael ynddo’n dynn./O, mae’i ysbryd yn troi… ”

6. Papillon – Elin Fflur

Ro’dd rhaid i fi gynnwys Papillon ar y rhestr, a hynny am un rheswm syml – dyma lle geshi’r tagline ar gyfer y blog hwn – ‘mentro mewn ffydd a hedfan yn rhydd’. Lyf it.

7. Ysbryd y Nos – Edward H Dafis

Jyst hyfryd, dydi?

8. Andra Day – Rise Up

“And I’ll rise up/ I’ll rise like the day/ I’ll rise up/ I’ll rise unafraid/ I’ll rise up/ And I’ll do it a thousand times again.”

O ies. ✊🏻

9. Pure & Simple – Hear’say

‘Swn i’n gwerthfawrogi os ‘sa chi’n medru scrolio pasio hwn heb feirniadu plis a diolch. (Does ‘na’m rhaid i chi fy ‘nabod i’n dda i w’bod fy mod i’n caru caneuon cawslyd – yn enwedig rhai y 00’s) Ond, ym, ar ddiwadd y dydd, be ‘di’r otch os ‘dio’n eich g’neud chi’n hapus…ia?

10. Three Little Birds – Bob Marley

Lej. Ma’ pawb yn ‘nabod y tiwn yma. Dwi’n rhoi dare i chi wrando arni heb ddechra’ canu hi eich hun….

11. Never Give Up – Maduk

Hon o’dd y gan gafodd ei defnyddio i hysbysebu digwyddiad eshi iddi Haf diwetha’ – Spotify Secret Social. (Dwi’n esbonio be o’dd o yng nghofnod ‘2016’) Ma’ hon yn f’atgoffa i o’r noson honno, a pha mor boncyrs a gwefreiddiol oddi. Dwi’m yn dallt hannar y geria’, ond ma’r tiwn ei hun yn fy ngwneud i’n hapus.

12. Lle Hoffwn Fod – Al Lewis Band

Ma’ gwrando ar lais Al Lewis fatha bod mewn paradwys. Mae o mor syml â hynny. A phwy sy’ ddim yn licio bach o ‘sha la la’s’? ✨

13. Gwreiddiau – Swnami

Am ryw reswm, mae’n atgoffa fi o fod yn feddw, a dwi’n ei hoffi o. So dyna ni.

14. Castle On The Hill – Ed Sheeran

Dwi bach yn ofn deud hyn yn gyhoeddus, ond, dydwi ddim wir yn ffan o Ed Sheeran. Ella bo’ na rai ohonoch chi wedi llewygu wrth ddarllen hynny, achos ma’ disgw’l i bawb fy oed i garu fo aparyntli. OND, wedi deud hynny, dwi yn caru un o’i ganeuon newydd o, yn enwedig y gytgan. Dwi’n siwr bo’ fi ‘di gwrando ar hon o leia’ 50 gwaith o fewn y pythefnos diwetha’…

15. Circle Of Life – Elton John

The Lion King ydi un o fy hoff ffilms Disney erioed. Cân mor bwerus, llawn emosiwn ydi Circle of Life, a dwi’n rili licio Elton John felly mae o’n gyfuniad perffaith i mi.

16. Another Day Of Sun – Soundtrack La La Land

Caws, caws, a mwy o gaws. Dwi’n meddwl bod angen hynny weithia’, yn enwedig yn y cyfnod ‘dan ni ynddi ar y funud.

17. Unrhywbeth gan Y Bandana

Na, nid wedi anghofio golygu hwn ydwi…dwi wir yn meddwl ‘unrhywbeth gan Y Bandana’. Ma’ nhw’n class.

18. Adventure Of A Lifetime – Coldplay

Dwi’n gwbod ella bod hyn ddim yn farn or-boblogaidd, ond dwi’n ffan mawr o Coldplay – er bod 90% o’u caneuon nhw’n g’neud mi feddwl yn riiiili dwys am fywyd 🤔 Ond o ran y gân benodol hon, mae o jyst yn un hapus, bywiog, sy’n llwyddo i wneud imi deimlo yr un peth wrth wrando arni hi. (Mae’r gân yn dechra’ tua 0:30)

O.N Be hydnoed ydi’r fideo ‘ma?

19. Highs & Lows – Emeli Sande

‘Swn i’n licio diolch i ITV am ddefnyddio’r trac yma i hysbysebu rhaglenni’r Gwanwyn, achos dyma sut geshi glywed y gân am y tro cyntaf. Yn debyg i gân Birdy, mae’n sôn am fod yn gefn i rywun dim ots be, mae o bendant yn record sy’n gneud chi deimlo’n dda. A ma’ llais Emeli yn wirioneddol hyfryd hefyd. (Dwi’n teimlo fel bo’ fi’n sgwennu adolygiad i Barn yn fan’ma)

20. Don’t Look Back In Anger – Oasis

Clasur. Oes angan deud mwy?

Fy Ngelyn Pennaf

Pan dwi’n ista lawr ac yn meddwl am ba bwnc i flogio yn ei gylch bob mis, ma’ ‘mhen i wastad yn mynd yn wag. Ond, ma’ nhw’n deud wrthach chi sgwennu am yr hyn ‘dach chi’n ei w’bod, a dyna’r cyngor dwi ‘di gymryd dros y misoedd diwethaf – e.e pan o’dd fy hunan-hyder i lawr, neshi sgwennu ‘Hunan-hyder’ (Teitl creadigol ta be), neu pan oni’n flin efo’r ffordd o’dd pobl o ‘nghwmpas i’n trafod salwch meddwl, neshi sgwennu ‘Ieithwedd iechyd meddwl’ ayyb.

Felly, y tro hwn, dwi’n mynd i flogio am rywbeth dwi erioed ‘di siarad amdano’n gyhoeddus o’r blaen. ‘Dio’m am fod yn hawdd, ond fedrai ddim ei osgoi o, gan ei fod o’n chwarae rhan mor fawr yn fy mywyd i – a holl bwynt creu’r blog o’dd i sgwennu’n onast.

Ers oni’n 14 oed, dwi wedi diodda’ o iselder.

Ma’ byw efo iselder fel cael cwmwl du uwch eich pen drwy’r amser, lle mae ‘na wastad risg o law trwm – bob diwrnod.

Er bod y salwch yn cael mwy o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar, dwi dal i deimlo fel bod pobl yn cam-ddeall be yn union ydi o, neu’n gwrthod ei gymryd o ddifrif. Ma’ hynny’n beth rhwystredig ofnadwy. Fy ngobaith i drwy sgwennu’r cofnod hwn ydi gwahaniaethu rhwng y ffeithiau a’r camsyniadau sy’n gysylltiedig â’r salwch. (Felly, fatha gêm o ‘Gwir neu Gau’, a pwy sy ddim yn mwynhau rheiny?)

1. Mae unigolion o bob oed yn medru dioddef iselder. – GWIR.

Geshi’r diagnosis cyn hyd yn oed cychwyn cwrs TGAU. Cyn hyn, rhaid cyfadda’, oni’n meddwl mai wbath oedd yn effeithio oedolion yn unig o’dd o. Ond na, yn ôl gwefan ‘YoungMinds’, mae bron i 80,000 o blant a phobl ifanc yn dioddef o iselder difrifol. Mae ystadegau fel hyn mor ddigalon, ond yn anffodus, tydi nhw ddim yn fy synnu i. Mae’r rhestr aros ar gyfer pobl o dan 18 i gael apwyntiad cwnselydd yn anhygoel. Mae’n fater o fisoedd, neu hyd yn oed blynyddoedd mewn rhai achosion.

Does ‘na’m cyfyngiad oedran pan mae’n dod at salwch meddwl.

2. Mae pobl efo iselder wastad yn drist – GAU.

Yndi, mae bod yn drist yn un symptom, ond nid dyna ydi iselder. Yn wahanol i be’ ma’ Google Images a llunia’ stoc y cyfrynga’ yn ei ddangos – nid jyst edrych allan drw’r ffenest pan mae’n bwrw glaw, neu dal ein penna’ yn ein dwylo wrth yml rhyw ddesg ‘dan ni’n ‘neud drwy’r dydd. (Er, dwi yn hoff o edrych allan a smalio bo’ fi mewn ffilm – ond ta waeth am hynny)

A geshwch be? Ma’ pobl efo iselder yn medru gwenu…a hyd yn oed chwerthin os goeliwch chi’r fath beth 😮

3. Dim ond pobl sydd wedi cael bywyd anodd sy’n diodda’ iselder – GAU.

Yn lythrennol, mi fedrith o effeithio unrhyw un. Yndi, ma’ ffactorau fel hanes o gael eich bwlio, profedgiaeth, profiad trawmatig, trafferthion ariannol ayyb yn cynyddu’r siawns, ond nid dyna ydi’r achos bob tro. Mi fysa chi’n gallu dod o gefndir breintiedig, cael teulu a ffrindia’ cefnogol, swydd dda, cariad gorjys ayyb, a dal  profi iselder. Does ‘na ddim wastad rheswm amlwg amdano.

4. Mae pobl sy’ efo iselder yn ddiog. – GAU 

Dwi’n *casau* yr camsyniad yma. Un o brif symptomau iselder ydi eich bo’ chi unai yn cysgu gormod, neu ddim yn cysgu digon. Tydi’r ffaith bod rhywun yn cysgu tan y p’nawn ddim yn eu gwneud nhw’n ddiog nac yn anobeithiol. Pan mae’r diwrnoda’ drwg yn taro, y peth dwytha’ ‘dach chi isho ‘neud ydi codi o’r gwely. Mae’n teimlo fel tasg amhosib ar adegau – nid oherwydd diogrwydd, ond oherwydd bod delio gyda petha’ sy’n ymddangos yn syml i bawb arall, yn ormod o fynydd i’w ddringo ar rai dyddia’. Felly, meddyliwch cyn cychwyn labelu pobl.

5. Does dim cywilydd o gwbl mewn cyfaddef eich bod chi’n dioddef. – GWIR

Na. No. Byth. Nefar. Mae hi mor syml â hynny. ✊🏻

6. Mae gan iselder symptomau corfforol yn ogystal â rhai meddyliol. – GWIR

Does ‘na’m llawer o bobl yn dallt hyn. Yn naturiol, mae’r mwyafrif yn meddwl mai dim ond yn feddyliol mae’r boen, ond mae’r symptomau corfforol cyn waethed â’r rhai meddyliol i fod yn onest. Ma’ nhw’n amrywio o berson i berson, ond rhai o’r problemau corfforol gall rhywun brofi ydi; cur pen, poen yn y frest, blinder llethol, newid mewn chwant bwyd, poen yn y cyhyrau oherwydd tensiwn, neu teimlo’n benysgafn. Yn bersonol, rhai o’r symptomau gwaetha’ dwi’n ‘i gael ydi diffyg canolbwyntiad/colli creadigrwydd – mae o fatha ca’l writer’s block 24/7. Niwsans uffernol yn enwedig gan fy mod i’n hoff o sgwennu’n fflipin’ creadigol..!

7. Ma deud ‘cheer up’ wrth rywun â iselder yr un mor ddefnyddiol a deud wrth rhywun sy’ ‘di torri coes i dynnu’r cast i ffwr’ ac i fynd am jog. – GWIR

Sori, ond mae’n ffycin useless o beth i ddeud. Triwch fod yn sensitif wrth drafod salwch meddwl – yn enwedig wrth wneud gyda dioddefwr. Tydi datganiadau ysgybol fel ‘na ddim am wella unrhyw beth.

P.S Tydi deud ‘snap out of it‘ ddim wedi cael ei brofi i wella’r salwch, chwaith.

8. Mae help ar gael. – GWIR

Er mor hawdd ydi o i ‘neud, y peth gwaetha’ fedrwch chi ‘neud ydi cau eich hun i ffwrdd wrth ddelio gyda salwch o’r fath. Gyda’r person/pobl cywir, siarad am eich anhwylder ydi’r penderfyniad gora’ newchi. Mae cymorth ar gael os ‘dach chi’n chwilio yn y llefydd cywir.

Rhai dolenni defnyddiol:

http://www.nhs.uk/Conditions/Depression/Pages/living-with.aspx

http://www.samaritans.org/ (Rhif ffôn – 116 123)

http://meddwl.org/

http://www.mind.org.uk/about-us/mind-cymru/

O.N Fedrai’m pwysleisio fo ddigon pa mor bwysig ydi bod o amgylch ffrindia’ a theulu sy’n eich cefnogi chi ac yn gwthio chi i’r cyfeiriad cywir – peidiwch â rhoi eiliad o’ch amser i’r rhai sy’n mynnu’ch tynnu chi lawr.

9. Mae iselder yn gwneud chi’n berson gwan/yn llai o berson. – GAU

Dwi’n gwybod am dipyn o bobl sy’n dioddef neu wedi dioddef – ac mi fedrai ddeud, yn gwbl onest, mai nhw ydi’r rhai o’r bobl ora’ dwi’n ei ‘nabod. Ac yn *sicr*, tydi nhw ddim yn wan. Mae’n cymryd cryfder uffernol i ymladd â’ch meddwl 24/7, ac i ymddangos fel bod popeth yn iawn pan mae’n teimlo fel bod pwysa’r byd ar eich ysgwydda’. Dwi’n meddwl fedrai siarad ar ran pawb sydd wedi dioddef o iselder pan dwi’n dweud – nid cydymdeimlad ‘dan ni isho, ond empathi. Peidiwch â’n trin ni’n israddol.

Os ‘dach chi’n gwybod am rywun, neu yn amau bod rhywun yn isel ac yn cael trafferth ymdopi – byddwch yno iddyn nhw. Gyrrwch neges, gofynnwch nhw draw am baned, atgoffwch nhw cymaint mae nhw’n ei olygu i chi. A pheidiwch â stopio.

Mae’r pethau bychain wir yn g’neud byd o wahaniaeth. 🌟