Jyst anadla!

Mae hi bron yn bum mlynedd a hanner ers i mi brofi panic attack am y tro cyntaf. 17/03/11 oeddi i fod yn fanwl gywir (Yndw, dwi’n un o’r bobl ‘na sydd llawer rhy dda yn cofio dyddiada’). Dwi’m wir yn cofio pam, na be yn union achosodd o. Y cwbl dwi’n gofio ydi lle oni, a sut fath o deimlad oedd o. Tydi o’m yn brofiad sy’n dianc y côf yn hawdd…

Ista’ yn cantîn ysgol oni pan neshi ddechra’ teimlo dipyn bach yn wahanol i’r arfer. Roedd y cloc yn tynnu at fod yn 1:30pm felly doedd y lle ddim yn llawn o gwbl – 20 o bobl o’dd yno ar y mwya’ – roedd hi’n fwy gwag na dim byd arall. Ond er hyn, yn sydyn, dechreuodd y neuadd deimlo fel ei fod o’n cau amdana i, ac bod pawb yno yn edrych arna i – yn syllu ac yn sylwi ar bob un symudiad oni’n ei ‘neud. Paranoia ar ei waethaf. ‘Nath hyn achosi i mi ddechra’ or-anadlu (dyna ‘di hyperventilate yn ol Gwgl Translate…dwnim), eshi’n boeth i gyd, ‘nghalon i’n rasio a methu stopio crynu. Ac yna’r symptom fwya’ sgeri ohonyn nhw i gyd, a’r un ‘nath wneud i mi sylweddoli bod hyn yn fwy na nerfusrwydd cyffredinol – neshi golli bob teimlad o ‘nwylo a nghoesa’. Fel tasa gen i ‘pins & needles’ wirioneddol ofnadwy. Don i ‘rioed ‘di profi wbath tebyg o’r blaen. Doeddwn i’m yn dallt be o’dd yn digwydd, a doedd genai’m syniad be i ‘neud. Yn anffodus, doedd ‘na neb arall o ‘nghwmpas i yn gwbod chwaith – ddim yn ideal. Ar ôl *lot* o orchmynion i anadlu a *lot* o wyneba’ dryslyd yn sbïo arnai wrth imi geisio dod at fy hun, roedd o drosodd. Os nag oedd pobl yn edrych arnai gynt, oedda nhw bendant yn edrych arnai ‘wân! Ma’ be ddigwyddodd wedyn dipyn bach yn blyri, ond dwi yn cofio ca’l fy ngalw i fynd i ‘stafell y Prifathro yn syth (gan gofio bo’ fi dal methu teimlo ‘nghoesa, roedd hynny’n uffar’ o fflipin’ job). Dim ond pan ges i fynd adra’ nes i sylweddoli be oedd wedi digwydd. Oni wedi diodda’ panic attack.

Yn anffodus dwi ‘di ca’l cant a mil ohonyn nhw ers hynny, ond cyn i mi brofi un fy hun, roedd clywed y geiriau ‘panic attack’ yn rili codi ofn arnai. Wedi’r cwbl, mae o’n swnio mor ddramatig! Os ‘swn i wedi cael rhyw fath o addysg ynghylch be yn union ydi o, neu hyd yn oed be i ‘neud os dwi’n cael un fy hun, dwi’n grediniol y basa’r profiad geshi wedi bod yn un llawer fwy esmwyth/llai hectig. Disgybl ym mlwyddyn 10 oni ar y pryd, a doeddwn i heb ga’l yr un wers am unrhyw beth cysylltiedig â iechyd meddwl. Dwi wir yn meddwl ei fod o’n beth hanfodol, a dylsa nhw wneud lle ar y cwricwlwm ar gyfer y fath addysg.

O ‘mhrofiad personol i, dyma rhai o’r petha’ pwysicaf fedrwch chi wneud os ‘dach chi efo rhywun sy’n cael panic attack:

  1. Cysuro/tawelu eu meddwl nhw drwy’r cyfan – ma’ deud pethau cadarnhaol fel “Ma’ bob dim am fod yn iawn”, “Dim ond panic attack ‘dio” (Achos mae llawer yn cam-gymryd y profiad fel rhywbeth fwy difrifol) ayyb yn helpu lot
  2. Peidiwch â chymryd o’n bersonol os tydyn nhw’m isho cael eu cyffwrdd – ma’ hynny weithia’ yn gallu g’neud i’r dioddefwr deimlo’n fwy clawstroffobig. Tydi hug ddim wastad yn helpu bob dim…!
  3. Deud wrthyn nhw i anadlu’n araf ac yn ddwfn (Nid mynd i banig eich hun a rhoi gorchymyn iddyn nhw ‘jyst anadlu’!) 😳

Tudalen defnyddiol:  http://www.nhs.uk/Conditions/stress-anxiety-depression/pages/coping-with-panic-attacks.aspx

Neshi ddod ar draws y GIF isod ar Twitter, a ma’n rhaid imi gyfadda’ ei fod o’n gweithio! ‘Swn i’n argymell i unrhyw un sydd angen ymlacio i’w drio. (‘Neith o atal unrhyw or-anadlu ‘fyd – hoff air fi ‘wan)

Gadael sylw