2020

Be hydnoed oedd 2020? Ma’r 12 mis dwytha’n teimlo fel breuddwyd hunllef dystopian. Ond, wedi deud hynny, dwi’n hollol ymwybodol ‘mod i mor lwcus o ga’l fy iechyd, fy nheulu a fy ffrindiau. Do, dwi ‘di gorfod gwneud sacrifices anodd fel pawb eleni, ond mam bach ma’na bobl wedi, ac yn parhau i wneud rhai llawar mwy na fi. Llaw ar ‘nghalon, dwi erioed wedi teimlo mor ddiolchgar nag ydwi eleni.

Mi fydd 2020 yn flwyddyn i’r llyfrau hanes heb amheuaeth, ac wrth gwrs mae’n amhosib imi ffitio bob dim ddigwyddodd yn y blog hwn, ond dyma rai o’r pethau gafodd argraff arna i – yng Nghymru ac yn rhyngwladol – yn ogystal â rhai profiadau personol.

Ionawr

• Dylwn i ‘di synhwyro bod 2020 am fod yn flwyddyn boncyrs pan a’th ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan i rif 1 yn siartiau iTunes yn ystod ail wythnos mis Ionawr. ‘Swn i’n hoffi gwbod faint o bobl o’dd yn anghyfarwydd ofynodd ‘Who’s this Daffyd Ewan fella?!‘ ar ddechrau’r flwyddyn…

• Wsos wedyn geshi deiar fflat ar fy ffordd i gyfweliad swydd ar ôl i ddieithryn, mewn traffig, nocio ar ffenast fy nghar yng Nghanolbarth Cymru i roi gwbod imi bod o beisicli yn fflatnar. Diolch byth amdano fo, achos ges i replacement tyre gan garij o’dd digwydd bod 2 funud i ffwrdd, a gallu g’neud hi i’r cyfweliad (yn flustered ac yn disorientated), ond ‘mond 5 munud yn hwyr…! Ro’dd dynoliaeth a chyfeillgarwch rili ar ei ora’ y diwrnod hwnnw. (Ges i’r swydd ‘fyd, cyn chi holi.) 

• Mi ‘nath Prydain hefyd adael yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol ar 31 Ionawr eleni, a dwi dal methu siarad am y peth heb regi a/neu crio efo despair felly ai ddim i fanylder, ond ma’ meddwl am yr holl gyfleon sy’ di cael eu cipio oddi wrth bobl ifanc a’r di-freintiedig yn enwedig, yn ofnadwy. Dwi’n mynd yn flin jest yn meddwl am y peth… Cymraes Ewropeaidd fydda i am byth.

Chwefror

• Un stori newyddion gafodd effaith mawr iawn arna i y mis hwn oedd y newyddion ofnadwy bod Caroline Flack wedi lladd ei hun. Mi ‘nath o wir fy ysgwyd i, a dwi dal methu cweit coelio’r peth hyd heddiw. Ers oni’n 11 oed, ro’ni wedi dilyn ei gyrfa hi ac yn edmygu hi lot fel cyflwynydd- yn gwylio TMI, Xtra Factor, Love Island ac ati, ac yn meddwl mai hi o’dd un o’r dawnswyr gora’ welodd Strictly Come Dancing erioed.

Os oes ‘na un peth ‘di dod o’r trasiedi yma, yr angen am garedigrwydd yn y byd ydi hwnnw, a phwysigrwydd meddwl cyn ymateb. Does gan neb syniad be ma’ unrhyw un arall yn mynd drwyddo fo go iawn.

Yng ngeiriau Caroline Flack ei hun: “In a world where you can be anything, be kind.”

Mawrth

• ‘Nai gyfadda’, ar ddechra’r mis, mi ro’ni’n euog o gyhuddo’r sianeli newyddion o scaremonger-o (os di hwnna’n air…) pan o’dda nhw’n adrodd am salwch Covid-19 yn Wuhan ac yn dechra’ poeni y basa fo’n cyrraedd fan hyn ac achosi chaos llwyr. Dwi’n edrych yn ôl ac yn teimlo mor wirion a naîf. ‘Swn i’n licio os fyswn i ‘di bod yn gywir, ond doeddwn i rili ddim. Mi o’dd na gyfnod swreal ar droed…

Ar nos Lun. 23ain o Fawrth, cafodd lockdown cenedlaethol ei gyhoeddi gan lywodraeth pob gwlad o fewn y Deyrnas Unedig. ‘Welai di mewn ryw dair wsos’ o’dd mentality nifer ohonom yn gadael y swyddfa ar y dydd Gwener cynt, heb syniad y basa ni dal yn gorfod gweithio o adra am o leia’ 9 mis arall, a bod pob un digwyddiad cymdeithasol am weddill y flwyddyn beisicli wedi’i ganslo.

Ar nodyn cadarnhaol, dwi’n cofio ‘neud galwad ar Twitter yn holi pobl am unrhyw gyngor i leddfu gorbryder yn ystod y cyfnod, ag wir ichi o’dd o fel ca’l hyg trw’r sgrin. O’dd yr ymateb yn anhygoel, a’r holl gefnogaeth yn g’neud i rhywun deimlo’n gynnas tu mewn, ar adeg lle o’dd bob un dim yn teimlo mor ansicr a sgeri. Y cyngor mwya’ ges i oedd i wylio llai o fwletins newyddion, stopio scrolio’n ddiddiwedd ar y ffôn, a gwneud mwy o bethau defnyddiol sy’n fy wneud i deimlo’n hapus – ma’ hunan ofal mor bwysig.

Ebrill

• ‘Dan ni gyd ‘di gorfod dod i arfer efo cyfarfodydd dros fideo erbyn hyn, a dwi’n siŵr bod pob un ohona ni unai wedi, neu yn ‘nabod rhywun sydd ‘di dechra’ siarad ac anghofio tynnu’ch hun oddi ar ‘mute‘…wel, gwell hynny nag anghofio troi ‘mute’ YMLAEN. Dyma Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, yn rhegi’n ‘discreet‘ am Jenny Rathbone, ei gyd-aelod Llafur Cymru, mewn cyfarfod dros Zoom. Mae’n werth chwara’ hwn ar lŵp er mwyn gwylio ymatab yr Aelodau Seneddol i gyd yn eu tro.

https://www.youtube.com/watch?v=V2OxUiVPhEo

Mai

• Ro’ni ddigon lwcus i ga’l bod yn rhan o erthygl i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni. Mae’r cyfleon dwi ‘di gael gan y cyfryngau dros y blynyddoedd i drafod iechyd meddwl, unai oherwydd fy mlog personol, neu drwy ‘ngwaith gwirfoddol efo Meddwl.org, yn golygu lot fawr a dwi byth yn ei gymryd o’n ganiataol. Mae’n fraint ca’l rhannu fy hanes i, a gobeithio drwy wneud hynny fy mod i’n gallu dangos i bobl eraill bod pethau yn gallu gwella, a bod o’n iawn hefyd i beidio bod yn iawn.

https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/honest-truth-living-mental-health-18255389

• Cafodd Eisteddfod yr Urdd weddnewidiad eleni oherwydd Covid-19. Cynhalwyd Eisteddfod T yn ddigidol yn lle, ac yn fy marn i, mi weithiodd o’n wych. Syniad da o’dd cynnwys cystadlaethau traddodiadol fel Cerdd Dant, llefaru ayb, ond hefyd denu cynulleidfa newydd wrth gyflwyno cystadlaethau ffresh fel lip-syncio a dawns deuluol! Mi wnaeth 6,000 o gystadleuwyr gymryd rhan yn Eisteddfod T sy’n ffigwr anhygoel a chalonogol, yn enwedig o dan yr amgylchiadau. Ymlaen at Eisteddfod T 2021.

Mehefin

• ‘All lives won’t matter until black lives matter.’

Cryfhawyd y symudiad Black Lives Matter ar ôl i George Floyd – dyn Affro-Americanaidd – gael ei ladd gan yr heddlu yn Minnesota, America. Gwthiodd Derek Chauvin, heddwas gwyn, ei benglin yn fwriadol ar wddf George Floyd am ddros wyth munud tra bu’r swyddogion eraill wneud dim ond sefyll a gwylio.

Tydi hiliaeth na anghyfiawnder yn bethau newydd – ddim i America, ddim i unrhyw wlad arall. Ond roedd y ffaith bod y digwyddiad erchyll yma wedi cael ei recordio ac yna’i rannu i’r byd i gyd cael gweld sut mae pobl Ddu yn cael eu trin, wedi cyfrannu lot at yr ymdeimlad o outrage llwyr. Mae o’n troi’r stumog i feddwl bod hyn yn digwydd mor aml.

Yn sgil llofruddiaeth Floyd, bu sawl protest byd-eang, gan gynnwys Protestiadau George Floyd yng Nghymru a ralïau o dan faner Black Lives Matter hefyd.

Dwi, fel person gwyn breintiedig, yn ymwybodol fy mod i efo lot o waith dysgu ac addysgu i wneud am hiliaeth, ei hanes a’i wreiddiau o. Ac i alw pobl allan pan dwi’n dod ar ei draws mewn bywyd dydd i ddydd. Mae’r amser o jyst isda nôl a gwneud na deud dim, drosodd.

Gorffennaf

• Dwi’n biased uffernol dwi’n gwbod, ond fe enillodd ‘Byw yn fy Nghroen’ (gol. Sioned Erin Hughes, Y Lolfa) gategori Cymraeg Uwchradd Gwobr Tir na N-Óg 2020!

Uchafbwynt 2019 imi o’dd ca’l cyfrannu ysgrif, felly mi oni ar ben fy nigon i glywed bod y gyfrol wedi ca’l y cydnabyddiaeth haeddianol hyn. Gobeithio wir fydd ‘na fwy o gyfrolau tebyg yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol!

Awst

• Daeth ‘na bol opiniwn allan o’dd yn dangos y bysa 32% o bobl yn pledleisio ‘Ie’ mewn refferendwm ar annibynniaeth i Gymru – y ffigwr uchaf erioed o’dd wedi’i recordio gan YouGov! Tydi o ddim rili yn gyfrinach ‘mod i o blaid annibynniaeth, a dwi methu disgw’l nes bod y ffigwr hyd yn oed yn uwch. Pan fydd hi’n saff cael un, dwi’n ffyddiog bydd y rali nesaf dros annibynniaeth wir yn un arbennig. (Dwi jest angen i Michael Sheen ddatgan yn swyddogol ei fod o isho Cymru Rydd ‘wan ac annerch y dorf fel y LEJ ydi o).

https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/new-yougov-poll-shows-highest-18832964

Medi

• Un o uchafbwyntia’ mis Medi imi’n bersonol o’dd podlediad DEWR – cyfres o sgyrsiau dirdynnol, personol, a gonest rhwng Tara Bethan a 10 o enwogion Cymru, megis Hywel Gwynfryn, Elin Fflur & Huw Stephens.

Ges i fodd i fyw yn gwrando ar y podlediad yma. Chwa o awyr iach. Roedd o fel ca’l awr o therapi bob wythnos. Mae gwybod nad ydwi ar ben fy hun efo’r emosiynau dwi’n ei deimlo, neu’r meddyliau sy’n rasio drw’ ‘mhen, yn helpu fi lot. Diolch i bawb oedd ynghlwm â DEWR. Croesi bob dim am ail gyfres!

Linc i’r podlediad: https://www.amam.cymru/dewr

• Hefyd y mis hwn ‘nath ‘na ddyn sy’n siarad Cymraeg ennill miliwn o bunnoedd ar Who Wants To Be A Millionaire yn y ffordd mwya’ cŵl a di-lol erioed. G’won Donald.

• Mi ‘nath neuadd breswyl Pantycelyn, Aberystwyth ail-agor ar ei newydd wedd hefyd ym mis Medi ‘leni er mwyn croesawu cenedlaethau newydd o fyfyrwyr – newyddion gwych. Gwell hwyr na hwyrach!

Hydref

Dwi’n teimlo fel bod y blog ‘ma angen mwy o fideos doniol (plys dwi’m yn cofio be ddigwyddodd ym mis Hydref) felly dyma clips sydd ‘di codi gwên arnai eleni.

https://youtu.be/gmHcis1m4aw

https://youtu.be/USWYGZ7nvLw

https://youtu.be/Vmb1tqYqyII

Tachwedd

• Ar ôl be o’dd yn teimlo fel misoedd, o’r diwedd fe alwodd sianel CNN bod Joe Biden wedi ennill yr etholiad i fod yn Arlywydd. Mam bach mi odd hi’n touch and go ar adegau ond ar 7 Tachwedd 2020, ro’dd o’n swyddogol – tydi democratiaeth heb farw a ma’r babŵn oren am ga’l cic owt o’r Tŷ Gwyn! Hwyl ti’r basdad.

Dwi’n gwbod bo’ Joe Biden ddim yn berffaith a doni’m wir yn rate-io fo pan oddo efo Barrack Obama chwaith, ond mi ydwi llawar fwy bodlon yn gwbod bod o’n cal yr allweddi am 4 mlynedd yn hytrach na Donald Trump, ac yn gobeithio gymaint y bydd America yn newid am y gora’… Hefyd, am y tro cynta’ erioed, mi fydd ‘na ddynes (Kamala Harris) yn Ddirprwy Arlywydd, ac mi gafodd Sarah McBride ei hethol i’r Senedd – y person traws cyntaf erioed i wneud hynny.

• Oo a ‘nath Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu Wrexham FC hefyd. No bigi.

Rhagfyr

• Ar ôl pedair mlynedd o gael ein cydnabod fel mudiad gwirfoddol, daeth Meddwl.org yn elusen gofrestredig! Ma’ hi’n fraint cael bod yn rhan o fudiad sy’n gweithio mor galed i herio’r stigma ynghlwm â salwch meddwl. Dwni’m be ‘swn i’n neud heb y wefan, a ma’ gwbod bod 43 blog wedi cael ei gyhoeddi eleni yn destun balchder mawr iawn imi. Hir oes i wefan Meddwl. Ymlaen â ni!

• Rhyswut, ‘dan ni di dod full circle achos yr wythnos hon, mi lwyddodd sengl Dwylo Dros y Môr 2020 gyrraedd rhif 17 ar siartiau iTunes ac fe lwyddodd Cytundeb Masnach Brexit basio drw’r Tŷ Cyffredin.

Dwi’n nacyrd.

A dyna ni. Adolygiad o’r flwyddyn ‘nath neb ofyn amdano fo. Pwy a ŵyr be ddigwyddith flwyddyn nesa’ – gawn ni Ewro 2020 a’r gemau Olympaidd / Paralympaidd? Fydd gweithio o adra yn dod hydnoed yn fwy normal? Sut fydd Etholiad Senedd Cymru 2021 yn edrych? Ydi masgiau yma i aros? Eith yr Alban am annibynniaeth eto? Ma’ gen i gant a mil o gwestiynau yn mynd rownd ‘mhen!

Waeth be ‘di’r atebion, dwi’n gobeithio wir y bydd 2021 yn flwyddyn iach a llawn cariad i chi gyd, ac y cawn ni gyd gwrdd â’n teulu / ffrindiau am y tro cynta’ ers misoedd neu fwy.

Byddwch yn garedig, gonest ac unapologetically gwych. Wela i chi’n 2021❤️

Gadael sylw